Mae Côr Ffilharmonig Abertawe’n gôr pedwar llais, ac mae ganddo fwy na 100 o aelodau. Cafodd ei sefydlu yn 1959 gan Haydn James gyda’r nod o godi safon canu corawl yng Nghymru ac o berfformio cerddoriaeth lai cyfarwydd yn ogystal â’r clasuron corawl. Mae maes canu’r Côr yn eang iawn ac yn cynnwys cerddoriaeth o’r cyfnod Baróc hyd at heddiw.
Mae Côr wedi mynd ati i gynnwys gweithiau cyfansoddwyr o wledydd Prydain, gan gynnwys Vaughan Williams, Britten ac Elgar, ac mae wedi sicrhau bod gan gynulleidfaoedd yng Nghymru cyfle i glywed gwaith Daniel Jones, Hoddinott, Mathias, a Karl Jenkins.
Mae’r Côr yn perfformio’n gyson yn Neuadd y Brangwyn ac yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe. Gan fod Abertawe wedi’i gefeillio â Mannheim, rydym ar adegau wedi canu gyda Chôr Bach Mannheim, gan gynnwys perfformiad cofiadwy o Requiem Rhyfel Britten yn 1995. Cafwyd teithiau cyfnewid pellach yn 2000, 2001 a 2008.
Mae’n blaser gan y Côr groesawu cyn Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg D. Byron Lewis CVO, KStJ, FCA yn Noddwr Anrhydeddus.
Mae’r Côr yn cydnabod y gefnogaeth a gaiff gan Ty Cerdd, sy’n derbyn ei arian gan Cyngor Celfyddydau Cymru.